Cyfranddalwyr ac Amcanion

Dod yn Gyfranddaliwr

Gall unrhyw un sy’n hŷn na 16 oed ac yn gefnogol i amcanion Antur Cymru ac sy’n byw neu’n gweithio yn Nyffryn Teifi neu’r gymdogaeth oddi amgylch, wneud cais i fod yn gyfranddaliwr. Mae hawl gan aelod wrth dalu £1, gael un gyfran yn unig o’r mudiad. Mae Bwrdd Antur Cymru yn barod i ystyried pob cais.

Yn y CCB ym mis Medi mae’r cwmni’n adrodd ar ei weithgareddau am y flwyddyn ariannol flaenorol (Ebrill i Mawrth). Gall cyfranddalwyr sy’n mynychu’r cyfarfodydd hyn gael dylanwad ar gyfeiriad Antur Cymru i’r dyfodol.

Wrth ddod yn gyfranddaliwr mae’n rhoi’r cyfle i’r unigolyn gael ei enwebu yn aelod o fwrdd y mudiad.

Amcanion y Mudiad

Mae amcanion Antur Cymru (ers iddo gychwyn) fel a ganlyn:

  1. Meithrin ac annog sefydlu busnesau a mudiadau
  2. Gwybodaeth a chyngor i fusnesau a mentrau
  3. Comisiynu arolygon ac astudiaethau ymchwil
  4. Gweithio gyda a dod yn aelodau o gymdeithasau neu fudiadau sy’n gefnogol i’n nodau
  5. Gweithgareddau sy’n cyflenwi’r amcanion hyn a llesiant yr ardal yr ydym yn gweithio ynddi
antur cymru vacancies logo
telemat vacancies logo

Ffurflen gais Cyfranddaliwr

Cliciwch isod e mwyn lawrlwytho ffurflen gais i fod yn gyfranddaliwr...

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction