Cymraeg language logo

Antur Cymru fel menter gymdeithasol

Menter gymdeithasol ydym ni a berchnogir gan gyfranddalwyr yn y gymuned. Nid ydym yn elwa’n unigol o’r buddsoddiad hwn ond yn hytrach wedi cytuno y dylai unrhyw arian dros ben gael ei ail-fuddsoddi yn y cwmni er mwyn cynnal y safonau uchel a gynigir gennym a hefyd mewn prosiectau i hyrwyddo ffyniant yn yr ardal.

Ein bwriadau yw cwrdd ag anghenion y busnesau a’r cymunedau yr ydym yn anelu ein gwasanaethau atynt.

Pan sefydlwyd y cwmni lluniwyd yr amcanion craidd canlynol er mwyn llywio gwaith Antur Cymru:

  • Meithrin ac annog sefydlu busnesau a mudiadau
  • Rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor i fusnesau a mentrau
  • Comisiynu arolygon ac astudiaethau ymchwil
  • Gweithio gyda neu dod yn aelodau o gymdeithasau neu fudiadau sy’n gefnogol i’n nodau

Mae Antur Teifi yn Gymdeithas Gofrestredig dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014 (Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014) ac Awdurdod Ymarfer Ariannol yw’r awdurdod cofrestredig. Mae Antur Cymru yn masnachu o dan yr enw ‘Antur Cymru Enterprise’.

Rhaid i unrhyw newidiadau i reolau a llywodraethiant y mudiad dderbyn cymeradwyaeth y cyfranddalwyr naill ai yn y CCB neu mewn CCA.

Ni chaniateir i gyfranddalwyr na aelodau bwrdd gymryd difidend ariannol o weithgareddau’r cwmni.

Yn debyg iawn i’r Scarlets, mae cymuned wrth galon holl waith Antur Teifi. Rydym yn falch felly i gydweithio gyda Antur Teifi fel rhan o’n rhaglen ymgysylltu cymunedol wrth gefnogi busnesau.

 

– Scarlets

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction