Allech chi fod ein Swyddog Perthynas Cleient nesaf?

Teitl y swydd Swyddog Perthynas â Chleientiaid
Yn adrodd wrth Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid
Is-adran Busnes Cymru
Band cyflog Cyflog o £21,000 y flwyddyn
Dyddiad ysgrifennu Diweddariwyd Mehefin 2018 (Adolygwyd Rhagfyr 2018)
Lleoliad Gogledd Cymru

 

 

Rheswm dros y rôl:

Yn rhan o bartneriaeth mae Busnes mewn Ffocws, Antur Teifi a Serco yn ffurfio Partneriaeth Twf Cymru.  O fis Ionawr 2016, am gyfnod o bum mlynedd, bydd Partneriaeth Twf Cymru yn darparu gwasanaeth Busnes Cymru, sef gwasanaeth cymorth busnes a ddarperir ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.  Caiff y gwasanaeth hwn ei arwain gan y Rheolwr Cenedlaethol, sy’n cael cymorth gan tri Rheolwr Rhanbarthol (ar gyfer y Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin a’r De) i reoli’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth ar draws Cymru.

Mae model darparu gwasanaeth Busnes Cymru yn rhannu cymorth yn bedair lefel, sef Cleientiaid Hunangyflogedig, Microfusnesau a dwy lefel o Dwf.  Bydd cleientiaid yn gallu cael cyngor trwy gymorth dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb gan dîm o Reolwyr Perthynas â Busnesau ac Ymgynghorwyr Busnes.  Darperir ystod eang o wybodaeth a chyngor busnes i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli’n barod.

 

Crynodeb o’r swydd:

Cynorthwyo’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru ar lefel ranbarthol.  Prosesu ymholiadau drwy’r model gwasanaeth sydd wedi’i rannu’n lefelau, gan ddarparu gwybodaeth, cyfeirio cleientiaid at wasanaethau a’u hatgyfeirio at randdeiliaid mewnol ac allanol.  Cynorthwyo’r tîm ymgynghorol i reoli’r berthynas â chleientiaid, a chynrychioli’r gwasanaeth mewn gweithgareddau hyrwyddo.

 

Cyfrifoldebau allweddol:

  1. Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad gan gleientiaid, gan gynnal dadansoddiad cychwynnol er mwyn penderfynu’n gywir a yw’r cleient yn gymwys i gael cymorth ac a oes ganddo’r potensial i dyfu, a phenderfynu ynghylch unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan y cleient, gan atgyfeirio a phrosesu pob ymholiad yn briodol, e.e. cyfeirio’r cleient at system BOSS ar gyfer hyfforddiant ar-lein, cyfeirio at y lefel/arbenigedd priodol yn y model cyflawni, ac ati.
  2. Lle bo’n gymwys, darparu gwybodaeth i gleientiaid, eu cyfeirio at wasanaethau a/neu’u hatgyfeirio at sefydliadau partner a sefydliadau cyfryngol arbenigol fel y bo’n briodol, gan gofnodi hynny’n unol â gweithdrefnau ac o fewn terfynau amser a bennir.
  3. Gweithio gyda’r Ymgynghorwyr i gynnal perthynas â chleientiaid drwy fonitro a chynorthwyo cleientiaid ar hyd eu taith, ar adegau a bennir.  Adolygu cynnydd cleientiaid a phenderfynu a oes angen unrhyw gymorth pellach arnynt, croesgyfeirio er mwyn cynnal eu hymwneud â’r gwasanaeth neu’u cyfeirio at bartneriaid allanol fel y bo’n briodol, ac adolygu bodlonrwydd cleientiaid.
  4. Mynychu digwyddiadau marchnata, e.e. ffeiriau busnes, digwyddiadau partneriaid a gweithgareddau cysylltiedig, er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth a chyfrannu at dargedau ar gyfer ymwneud â chleientiaid.
  5. Rheoli data cleientiaid yn gywir gan sicrhau bod pob gweithgarwch yn cael ei gofnodi ar systemau TG a bod canlyniadau ymyriadau’n cael eu dangos a’u cofnodi mewn modd sy’n cydymffurfio â’r gofynion.
  6. Cyflawni dyletswyddau mewn modd proffesiynol ac amserol gan roi gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid. Cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth dda ynghylch y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat i fusnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.
  7. Cynorthwyo Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid trwy nodi a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus, e.e. gweithdrefnau, systemau gwaith.
  8. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gallai fod yn rhesymol i Dîm Rheoli Busnes Cymru eu pennu.

 

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

  1. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy’r wybodaeth a’r cymorth busnes a ddarperir i gleientiaid Busnes Cymru.
  2. Cynnal ymwybyddiaeth gyfredol a lefelau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ynghylch materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth ac ynghylch sut i ddarparu gwasanaeth cynhwysol mewn modd proffesiynol i bob cleient.
  3. Darparu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gwerthoedd Antur Teifi a gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r uchod yn ddiffiniad bras o gyfrifoldebau’r swydd. Nid yw’n ystyried yr holl agweddau ar y swydd y gallai fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd eu cyflawni. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn cael eu pennu gan ofynion y busnes.

 

Manyleb Person

 

Hanfodol

Addysg / Hyfforddiant
Profiad
  • Profiad o weithio mewn tîm gwasanaethau cymorth er mwyn ymdrin â llawer o ymholiadau gan gleientiaid a darparu gwasanaeth effeithiol o safon uchel i gwsmeriaid
  • Profiad o weithio dan bwysau i gyflawni targedau tîm/amcanion rhanbarthol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n gofyn am gywirdeb er mwyn cydymffurfio â safonau a gweithdrefnau penodol sy’n gysylltiedig â gwaith archwilio mewnol ac allanol
Gwybodaeth
  • Dealltwriaeth dda ynghylch sut y mae busnesau lleol bach yn gweithredu ac ynghylch anghenion busnesau bach a chanolig yng nghyd-destun yr economi ranbarthol
Sgiliau / Cymwyseddau
  • Yn gallu pennu blaenoriaethau, cynllunio amser a threfnu llwyth gwaith er mwyn cyflawni canlyniadau mesuradwy, amcanion a cherrig milltir, ar ei gyfer ei hun, gan wneud hynny’n effeithiol
  • Gwasanaeth i gwsmeriaid – yn gallu gweithio a chydweithio ag eraill yn effeithiol, yn gallu adnabod anghenion a darparu atebion ymarferol, yn rheoli disgwyliadau, yn addasu dull personol o ymdrin â gwahanol sefyllfaoedd
  • Dadansoddi a defnyddio tystiolaeth – yn casglu’r wybodaeth berthnasol ac yn cyflwyno tystiolaeth yn gryno
  • Yn gallu gweithio’n gynhyrchiol dan bwysau, yn gallu addasu i amgylchiadau sy’n newid a’u derbyn
  • Yn gallu rhyngweithio’n effeithiol â phobl gan sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol
  • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn cyd-dynnu’n dda â phobl ar bob lefel.  Yn gallu cyfathrebu’n hyderus ac yn meddu ar sgiliau rhwydweithio i hyrwyddo’r gwasanaeth
  • Yn gweithredu gydag uniondeb, yn amddiffyn cyfle cyfartal ac yn arwain trwy esiampl er mwyn cynnal moeseg a gwerthoedd y sefydliad
  • Yn meddu ar sgiliau ardderchog o ran defnyddio TG a Microsoft Office
  • Yn meddu ar drwydded yrru ddilys neu’n gallu teithio o fewn y rhanbarth yn rheolaidd a ledled Cymru o bryd i’w gilydd

Dymunol iawn

Addysg / Hyfforddiant
  • Cymhwyster sy’n gysylltiedig â busnes, e.e. Cymhwyster Cymorth Busnes Lefel 2 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Cymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, neu gymhwyster uwch
Profiad
  • Profiad da o weithio gyda’r sector cyhoeddus a/neu gyda darparwyr gwasanaeth yn y sector cyhoeddus
  • Profiad da o weithio ym maes cymorth busnes yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat
  • Profiad o weithio gyda chronfeydd yr UE
  • Profiad o weithio mewn gwasanaeth sy’n cydymffurfio â’r gofynion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan ddarparu gwasanaeth cynhwysol
Sgiliau / Gwybodaeth
  • Gwybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat
  • Gwybodaeth am ofynion cyllid yr UE
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol

 

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction