Achrediadau Antur Teifi

Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ganolog i ethos ein sefydliad ac yma yn Antur Teifi rydym yn falch ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth C2E (Wedi Ymrwymo i Gydraddoldeb) ers 2010 a’r Safon Aur ers 2016.

C2E yw’r sefydliad achrededig cenedlaethol  sy’n sicrhau gwarantu ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. Am ragor o fanylion am y cynllun cliciwch yma https://www.c2e.co.uk/

Rydym yn falch o gyhoeddi hefyd bod Antur Teifi wedi ennill statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (‘Disability Confident Employer’) am ddwy flynedd arall. Mae’r achrediad hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i sicrhau bod yr anabl, neu’r rheini â chyflyrau iechyd hirdymor, yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Nod y cynllun  yw helpu cyflogwyr i wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarperir trwy gyflogi pobl anabl. Mae’n wirfoddol ac fe’i datblygwyd gan gyflogwyr a chynrychiolwyr ar ran pobl anabl. Am ragor o wybodaeth am y cynllun ewch i

www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign

Cyber Essentials

Unwaith eto mae Antur Teifi wedi llwyddo i ennill Tystysgrif Cyber Essentials.  Ar ôl cwblhau’r holl ofynion angenrheidiol,  gall Antur Teifi arddangos y bathodyn CREST i ddangos ei fod yn gwneud popeth yn ei allu i amddiffyn y busnes rhag fygythiadau seiber.

Diolch i dîm TG Telemat am eu cyfarwyddyd yn y gwaith o baratoi ar gyfer ad-ennill yr achrediad pwysig hwn eleni eto.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction