Unwaith eto, mae Antur Teifi wedi llwyddo i sicrhau achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl Hwn yw’r safon cydnabyddedig ar gyfer rheoli pobl.
Mae’r wobr yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wireddu potensial ein staff i arwain, cefnogi a rheoli eu timau yn effeithiol i gyflawni canlyniadau cynaliadwy. Yn sail i’r Safon mae’r fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n adlewyrchu tueddiadau diweddaraf yn y gweithle, sgiliau hanfodol a strwythurau effeithiol sydd eu hangen i berfformio’n well mewn unrhyw ddiwydiant. Gan weithio gyda chleientiaid ar draws y byd, mae Buddsoddwyr Mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y gorau yn y busnes ar raddfa ryngwladol.
Meddai Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl: “Hoffem longyfarch Antur Teifi gan fod achrediad hwn yn arwydd o gyflogwr gwych, a mudiad sydd wedi ymrwymo i gyflawni llwyddiant trwy wireddu potensial eu pobl. ”
Bronwen Raine yw Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi: “Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchiad o gyfraniad ac ymroddiad ein timau ledled Cymru. Mae ein hachrediad yn para am y tair blynedd nesaf, ond byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud gwelliannau mewn rheoli pobl er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cleientiaid. “