Pecyn Cymorth Brexit Llywodraeth Cymru.

Dal ddim yn siwr sut mae Brexit yn effeithio ar eich busnes?

Rydym yn cynnig cipolwg ar ‘Pecyn Cymorth Cyfathrebu Lleol” Llwyodraeth Cymru ar Brexit.

Rydym yn archwilio’r canllawiau y mae’n ei gynnig i weithredu busnes i fusnes a’r sector gwasanaethau.

 Mae cryn dipyn o gyhoeddusrwydd wedi ymddangos yn y wasg fusnes am y cytundeb a gadarnhawyd ar 24 Rhagfyr 2020 rhwng y DU a’r UE yn amlinellu perthynas y DU â’r UE i’r dyfodol.

Hwn yw’r cytundeb masnach rydd cyntaf i’r UE gytuno arno erioed ar sail tariffau zero a chwotâu zero. Gyda’r cyfnod trosglwyddo wedi ei gwblhau, mae rheolau newydd ar gyfer busnes ag Ewrop wedi cyrraedd.

Rydym yn cynnig cipolwg ar sut y gall y pecyn cymorth hwn eich helpu i ddeall yr effaith ar eich busnes a’ch gallu i fasnachu gyda’r UE.

Mae’r Gwiriwr Brexit yn cynnwys:

Sut mae Brexit yn effeithio ar fusnesau sy’n mewnforio ac allforio nwyddau.

Er mwyn parhau i fasnachu gyda’r UE, bydd angen i chi ddilyn rheolau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio gan gynnwys newidiadau i brosesau tollau a thrwyddedu. Mae’r pecyn cymorth yn esbonio sut i ddod o hyd i gymorth arbenigol yn ogystal â helpu busnesau i roi cytundeb ar waith – cyn gynted â phosibl – gyda chanolwr tollau megis hyrwyddwr cludo nwyddau neu frocer tollau. Os yw’ch busnes yn paratoi i symud nwyddau o dan Brotocol Gogledd Iwerddon gallwch wneud cais am y Gwasanaeth Cefnogi Masnachwyr am ddim.

Sut mae Brexit yn effeithio ar fusnesau sy’n darparu gwasanaethau rhwng y DU a’r UE.

Er mwyn sicrhau y gall eich staff â chymhwyster UE barhau i ddarparu gwasanaethau proffesiynol i gleientiaid yn y DU, bydd angen i chi sicrhau bod eu cymhwyster(au) proffesiynol yn cael eu cydnabod gan y corff rheoleiddio neu broffesiynol perthnasol yn y DU.

Darganfyddwch fwy trwy ymweld â GOV.UK/transition. Os ydych chi am weithio mewn proffesiwn sy’n cael ei reoleiddio yn yr UE/AEE neu’r Swistir efallai y bydd angen i’ch cymhwyster proffesiynol yn y DU gael ei gydnabod yn swyddogol.

Cefnogaeth un-am-un bellach i’ch busnes ddeall manylion pecyn cymorth Brexit.

I berchnogion a rheolwyr busnesau prysur, mae dehongli manylion y newidiadau a sut mae busnes yn cael ei effeithio yn parhau’n her. Gall busnesau Cymru gysylltu ag Ymgynghorwyr Masnach Ryngwladol Busnes Cymru. Byddant yn medru egluro manylion y newidiadau ac adolygu strategaethau masnach ryngwladol gyfredol gan gynnwys asesu newidiadau costau masnach Ewropeaidd a chyfleoedd posibl mewn marchnadoedd newydd.

Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth bellach gan Fenter Antur Cymru trwy gysylltu ag Anthony Kirkbride, ein Ymgynghorydd Masnach Ryngwladol Busnes Cymru ar 07779 457347 neu ewch i www.anturcymru.org.uk

 I gael mynediad at y Pecyn Cymorth Cyfathrebu Lleol Brexit, dilynwch y ddolen:  Brexit – GOV.UK (www.gov.uk)

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction