Penodwyd Menter Antur Cymru yn bartner cyflenwi ar gyfer y Cynllun Kickstart sydd newydd ei lansio, ac sy’n gyfle gwaith â thâl 6 mis y gall cyflogwyr lleol elwa ohono. Mae cynllun y Llywodraeth yn darparu cyfleoedd wedi’u hariannu’n llawn i gyflogwyr roi profiad gwaith i bobl ifanc.
Pwyntiau allweddol:
- Mae’r cynllun yn agored i fusnesau sy’n gallu cyflogi pobl ifanc 16-24 oed, sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
- Mae Menter Antur Cymru bellach yn derbyn ceisiadau gan fusnesau cymwys yn Ne, Gorllewin, Canolbarth a Gogledd Cymru.
- Bydd Menter Antur Cymru yn rheoli’r broses ymgeisio a gweinyddiaeth y gweithiwr yn ystod y cyfnod cyflogaeth o 6 mis, gan drefnu taliadau cyflog a didyniadau cyflogaeth.
- Gall busnesau wneud cais am nifer o weithwyr.
Oes gennych chi swydd ar gael yn eich busnes? Angen cefnogaeth ychwanegol, wedi’i hariannu’n llawn i fasnachu trwy’r argyfwng presennol?
Ffoniwch Menter Antur Cymru nawr ar 01239 710238 a gofynnwch am gefnogaeth Kickstart. Ebost: [email protected]