Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y gwasanaeth cwmwl cywir ar gyfer eich busnes

Mae manteision o gyfrifiadura cwmwl ar gael i unrhyw fusnes sy’n mabwysiadu band eang cyflym iawn. Mae ystadegau’n awgrymu fod 55% o fusnesau bach yn credu gall cwmwl wella cystadleurwydd, felly peidiwch â chael eich dychryn gan y syniad o dechnoleg newydd.

Gwnewch eich gwaith ymchwil a gofynnwch y cwestiynau dyfnach a fydd o gymorth i chi benderfynu ar y darparwr gwasanaeth cywir:

  1. A fydd y gwasanaeth cwmwl yn darparu’r hyn rydych eisiau, nid ar gyfer heddiw’n unig ond mewn blwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach?
  2. Faint fydd y gost? Mae modelau prisio’r cwmwl yn amrywio’n aruthrol, a dylech allu graddio eich defnydd i fyny neu i lawr.
  3. Beth yw strategaeth ddiogelwch darparwr gwasanaeth cwmwl, ar gyfer storio data a mynediad y defnyddiwr?
  4. Sut a ble fydd eich data’n cael ei gadw a’i gefnogi?
  5. A ydynt yn dilyn arferion a safonau gorau’r diwydiant ar gyfer rheoli gwasanaeth TG?
  6. A yw eu systemau a’u prosesau’n cael eu gwirio ac wedi’u hardystio gan y cyrff priodol sy’n gallu rhoi rhyw fath o ymddiriedaeth a thawelwch meddwl i chi?
  7. Pa mor hawdd yw newid?

I gael gwybod rhagor ewch i https://gov.wales/broadband-in-wales/what-are-my-options

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction