Lansio cymorth i brosiectau lleol yng Ngheredigion

Mae cyfle i gael cyllid wedi cael ei lansio ar gyfer unigolion, busnesau neu sefydliadau sydd â syniadau am y canlynol:

  • A ydych chi am wneud y gorau o asedau naturiol a diwylliannol yr ardal?
  • A oes gennych chi syniadau arloesol y mae angen eu treialu, ymchwilio iddynt neu roi cynnig arnynt?
  • A ydych chi am ddatblygu gwasanaethau sydd ar gael i drigolion y sir?
  • A ydych chi am wneud y mwyaf o dechnoleg adnewyddadwy?
  • A ydych chi’n teimlo bod y byd digidol yn eich gadael ar ôl?

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi llwyddo i sicrhau dros £3 miliwn i ddatblygu mentrau gwledig arloesol tan 2020 yng Ngheredigion. Mae Cynnal y Cardi yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â syniadau am brosiectau addas.
Esbonia John Davies, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu Lleol: “Gallwn ni gefnogi prosiectau peilot, cynnal astudiaethau dichonoldeb, cefnogi gweithgareddau mentora a hyfforddi yn ogystal â helpu i ddatblygu prosiectau gyda chymorth ein tîm arbennig o swyddogion. Mae’r gronfa yn ceisio annog ymatebion arloesol i’r cyfleoedd neu’r heriau a wynebir yn ein sir wledig.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cynnalycardi.org.uk. I gofrestru eich diddordeb cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01545 572063. Croesawir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction