Ar y 25 a 26 Mawrth bu cynrychiolwyr o Antur Teifi yng Nghynhadledd Dyfodol y Stryd Fawr yn Nottingham. Yn gwmni i Eleri Lewis o Canta a Jude Boutle Pencampwr y Dref Llandrindod yr oedd Angharad Williams perchennog busnes ifanc o Lanbedr Pont Steffan.
Sicrhaodd Angharad – sy’n berchen Lan Llofft ar Sryd y Coleg – ei lle yn y gynhadledd dan nawdd Cronfa Gymunedol Antur Teifi ar ôl cyflwyno cais ysgrifenedig yn amlinellu ei diddordeb yn nyfodol y stryd fawr a sut y byddai hi’n rhannu’r wybodaeth a gasglwyd i unigolion eraill sydd â diddordeb, sefydliadau a busnesau yn Nyffryn Teifi .
Yn ôl yr arbenigwr manwerthu Bill Grimsey, mae’r newidiadau sy’n wynebu manwerthwyr nawr yn gyflymach nag erioed o’r blaen a rhaid i drefi ddeall hyn ac ymateb drwy greu mwy o resymau i bobl ymweld â nhw. I gyflawni hyn bydd angen:
Cydweithredu Cynllunio Gweledigaeth
Dros ddau ddiwrnod, bu bron i 40 o siaradwyr – o’r un farn – yn rhannu eu gwybodaeth, arbenigedd a phrofiadau gyda phawb oedd yn bresennol.
Amlygwyd pedwar thema gyffredin dros y ddau ddiwrnod er mwyn mynd i’r afael â sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r stryd fawr ar ei newydd wedd a fyddai’n creu man bywiog a pherthnasol ar gyfer ein cymunedau
- Y gallu i fanwerthwyr i gofleidio’r oes ddigidol. Mae adeiladau yn dal yn bwysig ond rhaid eu hystyried mewn ffordd wahanol.
- Mae gweithio ar y cyd yn hanfodol. Mae’r stryd fawr yn bwysig i bawb sy’n byw yn y gymuned honno. Mae cyfrifoldeb ar bawb felly i gyfrannu at y broses gynllunio.
- Mae angen arweinyddiaeth gref i weithredu gweledigaeth hirdymor. Mae angen y gallu i weithredu’n gytbwys tra’n cadw at y strategaeth a gwneud i bethau ddigwydd
- Mae amrywiaeth ar y stryd fawr yn dod yn bwysicach. Mae cyfrifoldeb ar y rhai hynny sy’n cynllunio ar gyfer y dyfodol i adnabod yr anghenion sydd yn denu pobol i’r dref.
Dywedodd Angharad “Roedd y digwyddiad wedi rhoi llawer o syniadau i mi ar gyfer fy musnes fy hun a’r rhai y bydd busnesau eraill yn Llanbedr Pont Steffan, gobeithio, yn barod i archwilio er mwyn cael budd eu hunain yn ogystal â’r dref.”
Roedd Jude hefyd yn frwdfrydig. Dywedodd “Gyda’r toriadau mewn gwasanaethau a chyllid rhaid i ni i gyd i fod yn fwy creadigol a dyfeisgar yn y ffordd ry’ ni’n gwneud pethau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu gweithio gyda chynghorau yn hytrach na gadael iddyn’ nhw wneud pethau ar ein rhan”.
Ac i Eleri mae’r potensial o alluogi busnesau i helpu eu hunain yn gyffrous . “Ry’ ni’n ffodus iawn yma yng Nghymru bod ein cymunedau yn seiliedig ar gydweithio. Yr hyn sydd ei angen yn awr yw i adfywio’r deinamig cydweithredol hwnnw fel bod cydweithio cymdeithasol yn cynnwys y gymuned fusnes hefyd.”
Trwy rannu profiadau â phobol eraill bydd gan Antur Teifi rôl bwysig wrth eu haddasu i’n sefyllfa ni yma yn Nyffryn Teifi.