Cipolwg ar Antur Teifi yn 2015

Menter Gymdeithasol yw Antur Teifi – cwmni sydd yn dangos ymrwymiad clir i roi’r modd i fusnesau ffynnu a chyfrannu at economi sy’n tyfu. Mae 84 o bobl yn gweithio i’r cwmni, yn darparu gwasanaethau i gwmnïau preifat ac adrannau o’r Llywodraeth ar draws ystod o feysydd busnes yn cynnwys Deallusrwydd y Farchnad, Cynllunio Busnes ac Ariannu busnesau. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2015, fe gynhyrchwyd trosiant o £3.5m o’r gweithgaredd.

Thomas Joinery (3) Buddsoddwyd y gwarged o fewn y cwmni mewn cynlluniau i hybu ffyniant o fewn busnesau. Y fenter ddiweddara, a lansiwyd yn 2015, yw Perspectif – cwmni sy’n dadansoddi a deall marchnadoedd a thrwy hynny yn helpu cwmnïau i ddeall eu cwsmeriaid a’u hybu i wneud yn fawr o gyfleoedd yn y farchnad. Mae Bwrdd Antur Teifi, ar ran y cyfranddalwyr, yn parhau i arwain Antur Teifi i ddefnyddio’r dulliau gorau posib o ddefnyddio adnoddau ac arbenigedd i wella perfformiad yr economi mewn partneriaethau ag eraill.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction