16 tip i’ch helpu i wella marchnata eich busnes a’r Facebook

Bwriad Facebook yw cyflwyno cynnwys bydd defnyddwyr yn ei fwynhau. I gyflawni hyn bydd yn chwilio am y cynnwys mwyaf perthnasol, felly mae’n rhaid i’r deunydd ry’ chi’n postio adlewyrchu’r hyn mae defnyddwyr yn dymuno darllen. Mae negesuon organig wedi dirywio.  Mae hyn yn cyflwyno her i fusnesau heb yr un cyllidebau â hysbysebwyr mawr i fedru cystadlu yn y farchnad.  Ond, ‘dyw popeth ddim ar ben!

16 tip i’ch helpu i wella marchnata eich busnes a’r Facebook

Dyma 16 o awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i’r gynulleidfa gywir i chi drwy ddarparu cynnwys a phrofiadau bydd y gynulleidfa yn eu gwerthfawrogi – hyd yn oed gyda chyllideb fach.

  1. Postiwch â bwriad:

Rhaid i fusnesau fod yn wyliadwrus am yr hyn sydd yn cael eu postio neu’r hyn sydd yn trendio ar y pryd.  Nid yw postio neges yn y gobaith bydd yn cyrraedd y gynulleidfa iawn yn farchnata effeithiol!  Rhaid postio â bwriad. Yn gyntaf, rhaid sicrhau bod y cynnwys yn gweddu i’ch cynnyrch allweddol a’ch gwasanaethau tra ar yr un pryd bostio negesuon diddorol a gafaelgar.  Yna rhaid gwneud penderfyniad – ydych chi’n rhoi hwb ariannol iddynt neu beidio?

Manteisiwch ar ‘Facebook Insights‘. Bydd rhain yn eich helpu i benderfynu pa fath o weithgaredd sy’n ennyn yr ymgyslltiad gorau ȃ’ch tudalen a ble sydd angen i chi addasu’r cynnwys. Bydd defnyddio’r adnodd hwn yn datblygu rhythm postio naturiol da yn ogystal â sicrhau amrywiaeth o ran cynnwys.

2. Ymdoddwch:

Gwnewch yn siwr fod eich arbenigedd/brand yn cael ei bortreadu yn eich cynnwys.  Meddyliwch tu allan i’r bocs.  Efallai bydd ychydig o hiwmor yn gweddu i’ch brand a’ch steil. Bydd cynnwys sydd yn unigryw i chi yn atyniad i gynulleidfa ehangach ac yn cynyddu’r ymateb.

Edrychwch ar yr enghraifft hon:

Mae busnes yn defnyddio Facebook i bostio hysbyseb weledol gyda chynllun amlwg ynghyd â linc i brynu’r cynnyrch. Ond, mae perfformiad y neges yn siomedig a hynny oherwydd yr ongl hyrwyddo sydd ynddi.  Yna, mae’r un busnes yn postio yr union un hysbyseb eto ond mewn ffordd adloniadol a’r tro hwn mae’n llwyddo i ddenu pymtheg gwaith yn fwy.

Awgryma hyn bod algorithmau Facebook wedi adnabod dull hyrwyddo yn y neges gyntaf ond nid yn yr ail, ac o’r herwydd llwyddodd yr ail neges gyrraedd cynulleidfa ehangach a denu ymgysylltiad helaethach.  Roedd y dechneg adloniadol o farchnata yn yr achos hwn yn fwy gwerthfawr ac ymarferol na’r dull gwerthu.

3. Ewch i’r arfer o ddefnyddio ‘Calendr Cynnwys’:

I gynllunio’n effeithiol defnyddiwch Galendr Cynnwys. Dyma’r ffordd fwyaf effeithiol i wneud y mwyaf o’ch ymdrechion tra’n lleihau’r amser ry’ chi’n treulio ar farchnata.  Mae calendr yn caniatáu i chi drefnu a chynllunio cynnwys ar un adeg, a thrwy ddefnyddio offeryn amserlennu Facebook, gallwch rhaglenni eich negeseuon.

Bydd hyn yn rhyddhau amser i chi gael bwrw ymlaen â thasgau pwysig eraill. Cofiwch serch hynny am eich Enillion ar Fuddsoddiad (ROI) a mesur perfformiad eich negeseuon.

Bydd monitro eich mewnwelediadau a pherfformiadau a ffocysu ar reoli eich cymuned (ymateb i sylwadau, cydnabod y rhannu a’r tagio) yn sicrhau bod eich calendr yn datblygu i fod yn rhan annatod o’ch gwaith a gwella eich effeithlonrwydd ac atebolrwydd cyllidebol.

4. Gwnewch y gorau o’ch tudalen broffil:

Mae tabiau Facebook yn gweithredu fel arwyddbyst i’ch busnes.  Mae’n hanfodol bod y tabiau’n drefnus ac yn gwella gallu’r gynulledfa i ddod o hyd i wybodaeth amdanoch chi.

Mae Facebook yn caniatau i chi ail-strwythuro trefn y tabiau ac ychwanegu a dileu tabiau, nad ydynt yn eich tŷb chi, yn addas neu’n ddefnyddiol.  O wneud hyn, mae’n hwyluso profiad y gynulleidfa.

Mae’r rhain ar y wyneb yn newidiadau syml ac amlwg ac, o’r herwydd, efallai nad ydynt yn cael sylw.  Peidiwch da chi ddisgwyl i’r gynulleidfa weithio’n rhy galed i ddod o hyd i wybodaeth amdanoch chi.

5. Ystyriwch y posibilrwydd o greu ‘Tudalen Gymunedol’:

Mae rhai busnesau sy’n defnyddio Facebook o’r farn bod ‘tudalennau cymunedol’ yn  cyrraedd cynulledifa fwy organig o gymharu â thudalennau masnachol. 

Mae sefydlu tudalen breifat lle mae unigolion yn cael eu gwahodd i ymuno ȃ chi yn creu ymdeimlad o bwysigrwydd. 

Mae’r tudalennau hyn hefyd yn wych ar gyfer cynnal perthynas un-am-un gyda’r gynulleidfa.

6. Ystyriwch y posibilrwydd o greu ‘Grŵp Facebook’:

Archwiliwch werth creu grŵp ar gyfer eich busnes – ond nid ar gyfer hyrwyddo eich busnes.  Yn hytrach, defnyddiwch y platfform hwn i roi cyfle i’ch cwsmeriaid i rannu gwybodaeth am eich cynnyrch/gwasanaeth. 

Darganfyddwch ddiddordebau penodol eich cwsmeriaid a fydd yn eu sbarduno i gysylltu ȃ’r grŵp.  Wrth i’r grŵp dyfu, gallwch greu erthyglau perthnasol i’w defnyddio ar eich tudalennau busnes. 

Ond cofiwch, peidiwch ȃ defnyddio’r grŵp i hyrwyddo gwerthiant nac i weithredu.  Gwaith eich tudalen fusnes yw hynny.

7. Meddyliwch yn strategol am enw’r grŵp:

Mae meddwl tu allan i’r bocs yn ffordd wych o sicrhau y byddwch ben ac ysgwyddau’n uwch na’ch cystadleuwyr.  Ond ni fydd negeseuon a chynnwys aneglur yn eich helpu wrth ddewis enw i’r grŵp. Ysytriwch enw y bydd pobl yn debygol o chwilio amdano ar Facebook; bydd hyn yn cynyddu’r siawns o ddod o hyd i’ch grŵp.

Mae grwpiau Facebook yn berthnasol ar gyfer unrhyw fusnes mewn unrhyw faes/diwydiant trwy godi ymwybyddiaeth o’r brand.  Mae gweithgaredd ar draws pob platfform yn debygol o gynyddu eich cyrhaeddiad.

8. Ychwanegwch at eich stori yn gyson:

Efallai bod hyn yn amlwg, ond mae straeon Facebook yn caniatáu i chi ddefnyddio dull mwy ffwrdd-a-hi wrth bostio ar eich tudalen. Nid oes rhaid iddynt o reidrwydd fod yn negesuon sy’n ymwneud â newyddion busnes benodol; gall eich straeon amrywio o bolau piniwn bach i linciau cyffrous. 

Y bwriad yw ennyn diddordeb eich cynulleidfa a chynyddu’r cliciau holl-bwysig yna ar eich proffil a chynyddu cyrhaeddiad organig uwch.

9. Peidiwch ȃ becso gormod am fetrics ofer:

Dylai busnesau bach ganolbwyntio ar y llun mawr wrth bostio negeseuon yn hytrach na phostio rhai sy’n gwneud iddynt deimlo neu’n edrych yn dda dros dro.

Peidiwch â threulio oriau ac oriau ar greu negesuon a  graffeg gwych i’w rhoi mewn un neges Mae’n hawdd deall y cyd-destun ac adnabod y brand.  Peidiwch â gwastraffu amser gwerthfawr ar y pethau nad ydynt mor fuddiol ȃ hynny i’ch busnes.  Ansawdd sydd yn bwysicach na nifer.

10. Ystyriwch ddefnyddio Facebook ar gyfer gwasanaeth cwsmer:

Manteisiwch ar y cyfle i ddefnyddio atebion awtomataidd Facebook a’u defnyddio i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid. Pe bai mater yn ymwneud ȃ gwasanaeth cwsmer yn codi, defnyddiwch Facebook i ddangos iddynt eich bod yn gwrando.

Mae cwsmeriaid yn disgwyl atebion o fewn munudau, a Facebook yw’r platfform delfrydol i ddatrys problemau neu i ddiolch i gwsmer am adolygiad cadarnhaol.

11. Postio gyda chyllideb fach?

Ystyriwch ychwanegu cyllideb i ehangu cyrhaeddiad eich negeseuon – hyd yn oed cyllideb fach.  Amrywiwch y cynnwys, y negeseuon, y lluniau a’r amserau postio i ddarganfod beth sy’n gweithio i chi.

Arbrofwch gyda chyllideb fach a byddwch yn benodol gyda’ch dewis o gynulleidfa a’r maes daearyddol delfrydol ac yna mesurwch y canlyniadau yn erbyn nifer y rhai sy’n edrych ar y neges, y nifer sy’n hoffi, y nifer sy’n rhannu yn ogystal ȃ’r ymholiadau. 

Mae talu am neges yn ffordd o deilwra eich dull o farchnata.  Mae talu am negesuon yn gweithio orau pan nad y’n nhw’n edrych yn wahanol i negeseuon arferol Facebook; mae defnyddio fideo neu ddelwedd yn gweithio’n well.

12. Cyfyngwch eich cynulleidfa:

Y bwriad yw cyfyngu’ch cynulleidfa a phrofi’r gwahanol feysydd demograffig. Meddyliwch amdano  fel petaech yn rhedeg hysbyseb ar y teledu ond mewn gwahanol drefi; mae’n rhaid i chi ddarganfod beth sy’n gweithio orau i’ch busnes.

13. Ystyriwch rhoi hwb i’ch negeseuon:

Mae negeuson hwb Facebook (neu negeseuon wedi eu noddi) yn caniatau i ddefnyddwyr i ehangu’r gynulleidfa  yn ogystal ȃ rhoi’r modd i dargedu cwsmeriaid tebygol – a hynny gan ddefnyddio cyllideb fach.

Mae hefyd yn eich helpu i adennill cyrhaeddiad organig a gollwyd trwy newidiadau algorithmig parhaus Facebook gan gynyddu amlygrwydd eich busnes sydd, yn y pen draw, yn cynhyrchu traffig i’ch cynnwys law-yn llaw ȃ chynyddu gwerthiant eich cynnyrch/gwasanaethau.

Meddyliwch am neges ry’ chi wedi ei chreu yn y gorffennol i hyrwyddo eich cynnyrch neu wasanaeth allweddol – neges a gafodd ychydig iawn o adolygiadau a llai na’r disgwyl.   Rhowch gynnig ar roi hwb i’r neges hon i gynulleidfa darged benodol – mewn ardal ddaearyddol benodol efallai, – mae’r dull hwn o dargedu yn tueddu i gael ymateb gwell ac y gellir ei fesur yn haws.

14. Ystyriwch ‘Catalog Cynnyrch’ Facebook (Product Catalogue)

Trwy ddefnyddio’r offeryn hwn mae’n bosib creu profiad pori gwerthfawr i siopwyr trwy annog chwilfrydedd a pharodrwydd i ymgysylltu ȃ’r dudalen.

Yn ogystal ȃ hyn, mae’r offeryn hwn yn berffaith ar gyfer ail-dargedu deinamig a chreu cyswllt rhwng catalog sy’n bodoli eisoes ȃ chatalog arall ar blatfform gwahanol, fel google er enghraifft.  Bydd hyn yn cynyddu’r traffig ar draws pob un o’ch platfformau.

15. Wrth bostio fideo ystyriwch ‘Cynulleidfaoedd Arferol ‘Facebook (Custom Audiences) i ail-dargedu gwylwyr:

Un o’r strategaethau mwyaf effeithiol yw defnyddio hysbysebion fideo ar gyfer ail-dargedu cynulleidfaoedd, trwy ddatblygu cyfres o fideos yn seiliedig ar eich cynigion, a chreu cynulleidfaoedd wedi’u teilwra yn seiliedig ar ba mor hir y mae pobl wedi eu gwylio.

Er enghraifft:

Mae deintydd yn rhedeg hysbyseb fideo ar gyfer  cynulleidfa newydd ac yn siarad am ba mor hanfodol yw i chi glanhau eich dannedd. Ar ôl i’r fideo redeg am ychydig ddyddiau, creodd hysbyseb ail-dargedu yn cynnig gwasanaeth glanhau dannedd gostyngedig i gleifion newydd.  Ond, gall y deintydd dim ond dangos y fideo i bobl sydd wedi gwylio dros 50% o’r fideo glanhau dannedd gwreiddiol

O wneud hynny, mae’n gwybod bod ganddyn nhw eisoes ddiddordeb mewn glanhau dannedd, felly bydd ei hysbyseb yn llawer mwy perthnasol ac ymarferol. Pe bai’n cyflwyno’r hysbyseb glanhau dannedd gostyngedig i gynulleidfa newydd, byddai’r gyfradd ymgysylltu ar y cynnig yn llawer is.

16. Crëwch  ‘Cynulledifa Cadw’ (Saved Audience):

Yn wahanol i Custom Audiences, mae Saved Audiences yn rhai ry’ chi’n ffurfio trwy opsiynau targedu hysbysebu arferol Facebook.  Yn lle ffurfio’ch cynulleidfa bob tro ry’ chi’n creu hysbyseb neu eisiau rhoi hwb i neges, gallwch safio eich cynulleidfaoedd a’u defnyddio bob tro ry’ chi’n dechrau ymgyrch hysbysebu newydd.

Mae hwn yn opsiwn gwych os ydych yn bwriadu targedu cynulleidfaoedd tebyg bob tro ry’ chi’n creu hysbysebion penodol neu negeseuon wedi’u hybu; bydd yn arbed lot o amser ac arian i chi wrth osgoi dyfalu beth yw mesur eich llwyddiant.

A oes angen help arnoch chi gyda’ch strategaeth farchnata a’ch cyfathrebu?  Oes angen mireinio neu ail-gynllunio eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu ar-lein?

Am ragor o wybodaeth ewch i:

Ymgynghoriaeth Farchnata – Antur Cymru

Am wasanaeth TG i Fusnes ewch i:

www.telemat.co.uk

Neu gysylltwch ȃ Dai Nicholas ein Rheolwr Marchnata i drafod ein Gwasanaeth Marchnata i Fusnesau Cymraeg.  Cysylltwch nawr ar 07736 542280.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction