Angen gweledigaeth glir ar drefi i sicrhau llwyddiant

Ar y 25 a  26 Mawrth bu cynrychiolwyr o Antur Teifi yng Nghynhadledd Dyfodol y Stryd Fawr yn Nottingham.  Yn gwmni i Eleri Lewis o Canta a Jude Boutle Pencampwr y Dref Llandrindod yr oedd Angharad Williams perchennog busnes ifanc o Lanbedr Pont Steffan. Lan Llofft

Sicrhaodd Angharad –  sy’n berchen Lan Llofft ar Sryd y Coleg –  ei lle yn y gynhadledd  dan nawdd Cronfa Gymunedol Antur Teifi ar ôl cyflwyno cais ysgrifenedig yn amlinellu ei diddordeb yn nyfodol y stryd fawr a sut y byddai hi’n rhannu’r wybodaeth a gasglwyd i unigolion eraill sydd â diddordeb, sefydliadau a busnesau yn Nyffryn Teifi .

Yn ôl yr arbenigwr manwerthu Bill Grimsey, mae’r newidiadau sy’n wynebu manwerthwyr nawr yn gyflymach nag erioed o’r blaen a rhaid i drefi ddeall hyn ac ymateb drwy greu mwy o resymau i bobl ymweld â nhw.  I gyflawni hyn bydd angen:

Cydweithredu       Cynllunio         Gweledigaeth

Dros ddau ddiwrnod, bu bron i 40 o siaradwyr –  o’r un farn – yn rhannu eu gwybodaeth, arbenigedd a phrofiadau gyda phawb oedd yn bresennol.

Amlygwyd pedwar thema gyffredin dros y ddau ddiwrnod er mwyn mynd i’r afael â sicrhau dyfodol  llwyddiannus i’r stryd fawr ar ei newydd wedd a fyddai’n creu man bywiog a pherthnasol ar gyfer ein cymunedau

  • Y gallu i fanwerthwyr i gofleidio’r oes ddigidol. Mae adeiladau yn dal yn bwysig ond rhaid eu hystyried mewn ffordd wahanol.
  • Mae gweithio ar y cyd yn hanfodol. Mae’r stryd fawr yn bwysig i bawb sy’n byw yn y gymuned honno. Mae cyfrifoldeb ar bawb felly i gyfrannu at y broses gynllunio.
  • Mae angen arweinyddiaeth gref i weithredu gweledigaeth hirdymor. Mae angen y gallu  i weithredu’n gytbwys tra’n cadw at y strategaeth a gwneud i bethau ddigwydd
  • Mae amrywiaeth ar y stryd fawr yn dod yn bwysicach. Mae cyfrifoldeb ar y rhai hynny sy’n cynllunio ar gyfer y dyfodol i adnabod yr anghenion sydd yn denu pobol i’r dref.

Dywedodd Angharad “Roedd y digwyddiad wedi rhoi llawer o syniadau i mi ar gyfer fy musnes fy hun a’r rhai y bydd busnesau eraill yn Llanbedr Pont Steffan, gobeithio, yn barod i archwilio er mwyn cael budd eu hunain yn ogystal â’r dref.”

Roedd Jude hefyd yn  frwdfrydig. Dywedodd “Gyda’r toriadau mewn gwasanaethau a chyllid rhaid i ni i gyd i fod yn fwy creadigol a dyfeisgar yn y ffordd ry’ ni’n gwneud pethau yn y dyfodol.  Mae hyn yn golygu gweithio gyda chynghorau yn hytrach na gadael iddyn’ nhw wneud pethau ar ein rhan”.

Ac i  Eleri  mae’r potensial o alluogi busnesau i helpu eu hunain yn gyffrous . “Ry’ ni’n ffodus iawn  yma yng Nghymru bod ein cymunedau yn seiliedig ar gydweithio.   Yr hyn sydd ei angen yn awr yw i adfywio’r deinamig cydweithredol hwnnw fel bod cydweithio cymdeithasol yn cynnwys y gymuned fusnes hefyd.”

Trwy rannu profiadau â phobol eraill bydd gan Antur Teifi rôl bwysig wrth eu haddasu i’n sefyllfa ni yma yn Nyffryn Teifi.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction