13 Tip ar sut i greu cyfrif a dechrau marchnata eich busnes ar YouTube.

13 Tip ar sut i greu cyfrif a dechrau marchnata eich busnes ar YouTube.
13 Tip ar sut i greu cyfrif a dechrau marchnata eich busnes ar YouTube.

Efallai eich bod o’r farn nad yw defnyddio YouTube yn addas ar gyfer eich busnes chi oherwydd bod eich busnes yn rhy fach neu oherwydd nad oes gennych y wybodaeth dechnegol  i fedru creu ffilmiau bach.  Efallai nad ydych wedi cael eich argyhoeddi am werth You Tube i’ch strategaeth farchnata chi.

Cymerwch amser i edrych ar yr 13 cam rhwydd i’w darllen isod. O bosib, gallant eich helpu i benderfynu os ydy You Tube yn ychwanegu gwerth at eich gweithgareddau marchnata o ran creu cysylltiadau ac ymholiadau gwerthiant.

Cam 1: 6 o gamau ar gyfer ‘Creu Cyfrif Busnes YouTube’.

·       Mewngofnodwch i gyfrif Google sy’n bodoli eisoes, neu grëwch gyfrif You Tube arbennig ar gyfer eich sianel fusnes chi.

·       Ewch i Hafan You Tube a chrëwch enw i’ch sianel fusnes.

·       Cwblhewch y manylion sydd eu hangen ar gyfer creu cyfrif busnes.

·       Sicrhewch fod gwaith celf eich logo neu waith celf eich eicon yn barod a rhowch ei gadw yn eich ‘sianel fusnes’.

·       Cwblhewch ddisgrifiad o’r sianel lle nodir hynny.

·       O ystyried pwy yw eich cwsmeriaid a beth mae nhw eisiau ei weld, crëwch sianeli a gweithgareddau penodol ar eu cyfer.

A dyna ni.  Chi’n barod i lanlwytho eich fideo!

Cam 2: Nawr gadewch i ni weld sut y gallai You Tube weithio i’ch busnes gyda’r 13 tip hawdd eu deall isod.

1. Ystyriwch beth mae eich cynulledifa eisiau ac ysgrifennwch deitlau atyniadol.

Gwedwch yn syth wrth eich cynulleidfa beth yw pwrpas eich fideo. Ysgrifennwch deitlau bachog sy’n gwerthu’ch negeseuon craidd, eich gwasanaethau a’ch cynnyrch. Er enghraifft, ‘Dysgwch sut i greu cynllun busnes’. ‘Galwadau brys awtomatig 24 awr am ddim’….

2. Gwedwch wrth y Peiriannau Pori fel Google ei bod hi’n bosib y bydd eich fideo yn ymddangos wrth i bobol chwilio amdani ac ‘optimeiddiwch’ y cynnwys a’r disgrifiadau i gydfynd â’r meini prawf chwilio.

Os nad ydych chi’n we-hyderus neu’n ansicr o sut mae optimeiddio cynnwys (SEO), siaradwch â’ch datblygwr gwe am sut orau i gael eich darganfod ar Google a’r peiriannau pori eraill. Defnyddiwch y wybodaeth yn y blog hwn i ddechrau’r sgwrs. Trafodwch gynnwys a phynciau eich fideo. Bydd angen y wybodaeth hon arnoch wrth law wrth ysgrifennu teitl a disgrifiad ar gyfer eich fideo i’w llwytho ar eich sianel YouTube.

 I sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch cynnwys fideo, y teitl a’r disgrifiad, rhaid ystyried a dewis geiriau allweddol ynghyd ȃ defnyddio iaith ddealladwy a tagiau

3. ‘Siaradwch‘ gyda chymuned YouTube

Yn debyg i sianeli Cyfryngau Cymdeithasol eraill, lle cymdeithasol yw You Tube ac mae llawer o arferion marchnata da yn berthnasol iddyn nhw. Er enghraifft, bydd angen i chi ystyried sut i gael gwylwyr ac ymwelwyr i dagio, hoffi a rhannu eich fideos.

Pan fydd eich gwylwyr a’ch ymwelwyr yn rhyngweithio, bydd y weithgaredd yn anfon neges at YouTube yn dweud bod gan eich fideo ddilynwyr ac yn union fel peiriannau pori eraill, bydd hyn yn effeithio ar eich safle ar y rhestr. Ond meddyliwch amdano fel pe baech ond yn cael sgwrs â’ch cwsmeriaid a rhyngweithio ȃ nhw trwy ymateb i’w sylwadau a dangos iddynt eich bod yn gwrando.

Mae gwrando yn ffordd dda o gasglu adborth hefyd. Ystyriwch greu fideo fer am gynnyrch neu wasanaeth newydd a gofynnwch am adborth.  Does dim i’w golli a lot i’w ennill!

4. Addaswch eich cryno-lun

Mae creu cryno-lun ar You Tube yn rhwydd iawn ac yn bwysig gan eu bod yn rhoi cipolwg ar gynnwys eich fideo cyn bod gwylwyr yn ei hagor.

Y rheswm dros greu cryno-lun yw eich bod yn medru pennu pa ddwelwedd sydd yn cael ei gweld pan fydd y fideo yn cael ei lanlwytho i’ch sianel. Fel arall bydd YouTube yn penderfynu ar eich rhan chi pa ‘ffrâm’ i’w defnyddio, ac efallai nad dyna fydd y ddelwedd orau.

Felly eto, gofynnwch i’ch hun beth mae’ch cwsmer eisiau ei weld a fyddai’n ei gymell i wylio eich clip fideo. Defnyddiwch y ddelwedd sy’n dweud y cyfan am eich gwasanaeth.

5. Traws-hyrwyddwch eich fideos ar YouTube

Wedi dod i’r afael ȃ’r grefft o greu fideos mae’n debyg y byddwch eisoes wedi postio rhai ohonynt  ar YouTube.  Er enghraifft, efallai  bydd y fideos hŷn yn cynnwys ffeithiau neu fuddion perthnasol, diddorol a fydd yn ategu’ch fideo gyfredol. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â’r termau ‘darllen pellach’ neu ‘pethau eraill o ddiddordeb’.  Defnyddiwch ddolenni i’r rhain a’u rhoi yn y disgrifiadau.

6. Targedwch ganlyniadau pori Google

Mae chwilio am fidoes yn rhwydd iawn ar Google, sydd ddim yn syndod efallai gan taw Google sydd yn berchen ar YouTube!  O gofio hyn a’r ffaith mai You Tube yw’r ail beiriant pori mwyaf poblogaidd ar ôl Google, mae’r ffaith hon yn dyngedfennol.

Fel a soniwyd eisoes, mae SEO yn sgil arbenigol ond os oes gennych ddatblygwr gwe gwerth ei halen mynnwch air am sut i gael y gorau o’ch fideos a’ch sianel.  

Mae gweithio ar yr egwyddor o ddod o hyd iddi a’i chynnwys ar Google yn fan cychwyn da.

Mae cynnwys diddorol megis adolygiadau am gynnyrch, erthyglau ar sut i wneud rhywbeth a thrafod tueddiadau cyfredol o fewn eich sector neu am eich cynnyrch neu wasanaeth yn werth i’w hystyried.  Er enghraifft, yn y diwydiant diod, efallai y bydd gwneuthurwr Gin yn cael cryn lwyddiant gyda’i Coctêls Gin neu, yn y byd ffasiwn, gall pȃr o esgidiau a gynlluniwyd gan un o sêr Hollywood gynnig cyfle am sgwrs neu gall cyfrifydd gyfeirio at y meddalwedd treth ddigidol ddiweddaraf.

7. Beth am greu cyfres yn seiliedig ar thema?

Mae creu thema wrth gynhyrchu fideo yn syniad da. Meddyliwch am eich cynnyrch neu wasanaeth ac yna datblygwch deitl sy’n disgrifio’r hyn ry’ chi’n cynnig a’u buddion ac yna cynlluniwch gyfres yn seiliedig ar yr holl elfennau perthnasol.

Er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu nwyddau adeiladu, yn Rhan 1 gallwch sôn am doeon a nodi’r gwahanol deiliau ry’ chi’n cynnig. Yn Rhan 2, sôn am beth sydd yn dda am y teiliau hyn ac yn Rhan 3 (lle ry’ chi wedi sôn amdano drwyddi draw fel ‘ar ei ffordd’) datgan ‘ar gael nawr am bris arbennig’. Dilynwch hyn gyda galwad i weithredu.

Fel y gallwch ddychmygu mae’r egwyddor syml hon yn cael ei mabwysiadu ar gyfer bron pob cynnyrch neu wasanaeth. Meddyliwch am Glwb Gwin. Rhan 1 – y dewis. Rhan 2 – clip o’r gwinllannoedd a’r blaswyr gwin. Rhan 3 – ‘manteisiwch ar ein cynnig arbennig’

8. Plannwch eich fideos You Tube.

Profwyd bod cynnwys fideo yn creu cyfradd o ymgysylltu uchel ymysg darpar wylwyr i’ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Hynny yw, mae nhw’n llawer mwy tebygol o glicio ar gynnwys fideo na thestun neu ddelweddau yn unig.

Gallwch harnesu’r awydd hwn i ymgysylltu trwy blannu neu gludo’ch fideos o YouTube i’ch gwefan, blogiau ac adran newyddion, yn ogystal â’ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae hwn yn syniad da oherwydd mae cynnal cynnwys ar YouTube yn gwella eich safle ar y porwr.

Bydd cynnal fideo yn uniongyrchol ar eich sianeli ac ar eich gwefan yn golygu cadw llawer iawn o ddata ar eich gweinydd.  Golyga hyn y gall arafu eich gwefan.  Wrth gynnwys dolen yn eich fideo, You Tube fydd yn cario’r data mawr sydd yn golygu na fyddwch yn colli cyflymder eich gwefan nac ychwaith ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Wrth benderfynu ar safle gwefannau yn y rhestrau pori, mae Google yn talu cryn sylw i gyflymder lawrlwytho felly mae’n talu ffordd i sicrhau bod eich gwefan yn medru lawrlwytho’n gyflym.

9. Cyhoeddwch eich cynnwys YouTube yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Efallai bod hyn yn amlwg ond mae’n syndod pa mor aml mae’n cael ei anwybyddu. Rhaid i chi rannu’ch neges ymhell ac agos, a’r ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithiol o wneud hynny yw trwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Sicrhewch eich bod yn creu cryno-lun neu graffeg gyffrous ac yna gopïwch y ddolen o’ch fideo YouTube trwy glicio ar ‘share’ a chadw’ch y ddolen.

Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy gludo dolen y fideo i’ch gwefan ac yna glicio ar y dudalen ar y we sy’n ei chynnwys. Yna gopïwch y cyfeiriad/ddolen i’r dudalen sy’n cynnwys eich penawdau pori a chlicio ar eich tudalen gyfryngau cymdeithasol i greu’r neges.

Mae hyn yn cynnig cyfle i chi greu ôl-ddolenni, hynny yw, bydd anfon ymwelwyr i’ch gwefan a’ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gwella’r traffig i’ch gwefan a chyfle gwell i  beiriannau pori fel Google chwilio a dod o hyd iddynt.

Ambell ei syniad i roi eich meddwl ar waith :

10. Cynyddwch yr ymgysylltiad â phobol gyda galwadau i weithredu.

Peidiwch â bod ofn atgoffa gwylwyr neu ymwelwyr am yr alwad i weithredu megis ‘ffoniwch nawr,’ cliciwch yma i ebostio neu i ymweld â’n gwefan’ neu’ gofynnwch gwestiwn nawr’. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio teitlau ar y sgrin, gan ddefnyddio troslais neu’r ddau. Beth am ofyn cwestiwn i’r gwyliwr ac efallai cynnig gwobr am ebostio ateb neu ymholiad?

11. Rhowch gynnig ar ffrydio’n fyw.

Nid peth hawdd yw gofyn i berson sydd ddim yn rhy hoff o siarad o flaen camera i ffrydio’n fyw ond gall fod yn haws na ry’ chi’n meddwl ac nid mor llethol a bysech yn tybio. Meddyliwch am yr amseroedd hynny pan ry’ chi wedi lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.  Gallech fod wedi ffilmio clip o’r foment fawr a gwell fyth hyrwyddo’r ffaith ei fod yn mynd i ddigwydd!

Mae busnesau’n mynychu llawer o ddigwyddiadau a seminarau. Gyda chaniatâd cyflwynydd y digwyddiad, beth am ffilmio clip o’r digwyddiad neu gyfweld â’r siaradwr ar ôl y seminar?

Beth am ffrydio gwaith eich tîm yn fyw o’r lle gwaith e.e wrth baratoi danfoniadau neu’n cwblhau archebion neu’n rhoi darnau allweddol at ei gilydd?

Pethau i roi cynnig arnynt:

12. Beth am gystadleuaeth neu roddion?

Fel a nodwyd eisoes, mae nifer o egwyddorion y cyfryngau cymdeithasol yn berthnasol i YouTube a gall sicrhau bod gwylwyr ac ymwelwyr yn ‘rhannu’ fod yn rhan hanfodol o’ch strategaeth farchnata. Er enghraifft, pe baech yn chwilio am adborth ar gynnyrch neu wasanaeth newydd neu’n ceisio gwerthu stoc, gall cynnig rhoddion cychwynnol annog rhai i  rannu’r fideo gyda’ch gynulleidfa darged.

Syniad arall fyddai i redeg cystadleuaeth ar y cyd ȃ busnes tebyg arall a chynnig gwobr o faint briodol.  Efallai na fydd hyn yn addas ar gyfer pob sector neu fusnes ond yr un yw’r egwyddor a gallwch ofyn iddynt rannu eich fideo.

Yn achos gwasanaethau busnesau, gallai gwerth neu gylchrediad y wobr fod yn wybodaeth yn ei hunan.  Beth am geisio mynediad i adroddiadau busnes perthnasol neu ddata am eich diwydiant neu hyfforddiant pellach neu gredydau ‘Datblygu Proffesiynol Parhaus ‘ (DPP)?

Cyn gynted ȃ byddwch wedi rhoi cynnig ar unrhyw un o’r hyrwyddiadau hyn mae’n hanfodol eich bod yn mesur yr enillion ar eich buddsoddiad (ROI) wrth benderfynu a oeddent yn werth chweil ai peidio, wedi arwain at fusnes newydd, cwsmeriaid yn dychwelyd neu werthiannau.

ON:  Gwnewch yn siwr eich bod yn cydymffurfio ȃ Pholisïau Cystadleuaeth YouTube YouTube’s policies

Ac os oes gennych gyllideb:

13. Rhedeg ymgyrch hysbysebu wed’i thalu ar YouTube.

Os ydych yn fusnes bach heb gyllideb, byddwch yn meddwl grêt ond amhosib!  Serch hyn, does dim drwg o ddeall sut mae’n gweithio. Efallai eich bod yn edrych i dyfu eich busnes, ac efallai bydd y wybodaeth am hysbysebion YouTube yn help i’r dyfodol.

Mae YouTube yn cynnig ystod o opsiynau:

  • Hysbysebion Arddangos (Display ads): Fe welwch rhain ar y bar ochr dde o’r fideo ond dim ond ar gyfrifiadur desg.
  • Trosluniau (Overlay ads): Fe welwch rhain ar waelod y fideo.  Eto, dim ond ar gyfrifiadur desg.
  • Sgipiadau (Skippable and non-skippable video ads): Bydd rhain yn ymddangos cyn, yn ystod neu ar ddiwedd fideo. Gan amlaf maent yn rhoi’r dewis i chi ‘sgipio’ ar ôl pum eiliad ond gyda hysbysebion na fedrwch chi sgipio bydd yn rhaid i chi wylio’r hysbyseb yn ei chyfanrwydd cyn fedru gwylo’r fideo.
  • Bwndeli (Bumper ads):  Ni allwch sgipio’r hysbysebion 6 eiliad hyn.  Rhaid eu gwylio trwyddi cyn gwylio’r fideo.
  • Cardiau noddedig (Sponsored cards): Cardiau yw’r rhain sy’n cael eu harddangos mewn fideos perthnasol. Gallwch eu defnyddio i hyrwyddo’ch cynnyrch neu unrhyw gynnwys arall.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Antur Cymru a Chefnogaeth TG Telemat,  ewch i https://anturcymru.org.uk or https://www.telemat.co.uk

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction