Mae Aberhonddu, Llanbedr Pont Steffan, Llandrindod, Llandysul, Y Drenewydd a Thregaron ar fin elwa o fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Cyngor Sir Powys yn gweinyddu’r rhaglen sy’n cynnwys pecyn cymorth o fenthyciadau, buddsoddiadau preifat a grantiau.
Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’r rhaglen Targedu Adfywio a Buddsoddi sy’n darparu £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar draws y wlad dros dair blynedd i gefnogi prosiectau adfywio yng nghanol trefi ac ardaloedd cyfagos.
Cyhoeddodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, bod £1.5 miliwn o gyllid ar gael o Gronfa Buddsoddi Eiddo Canol Tref gwerth £2.14 miliwn ar draws cynghorau Powys a Cheredigion.
Nod y buddsoddiad yw adfywio bywyd masnachol a manwerthu y 6 yng nghanolbarth Cymru.
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirpwy Weinidog Tai a Llwyodraeth Leol:
Hannah Blythyn said:
Rydym eisiau cefnogi busnesau lleol, tyfu canol trefi a chreu cyfleoedd gwaith yng nghanolbarth Cymru. Bydd creu mwy o ofod masnachol a manwerthu o ansawdd da yn helpu gyda hyn, yn ogystal â chreu cartrefi yng nghanol ein trefi, fel y gall pobl fyw a gweithio yn lleol a chyfrannu at yr economi leol.
Bydd y gronfa yn helpu i greu cyfleoedd allan o eiddo gwag ac yn denu mwy o bobl i ganol ein trefi. Rwy’n edrych ymlaen at weld gwaith adnewyddu cyffrous, a busnesau’n tyfu ac yn ffynnu ar draws trefi yng Ngheredigion a Phowys o ganlyniad.