








Menter Antur Cymru - yn gweithio i gefnogi busnesau a chymunedau Cymru am dros 40 mlynedd
Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy'n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu. Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.
Mae Menter Antur Cymru yn darparu gwasanaeth cyngor Busnes Cymru yng Nghanolbarth Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru ynghyd ag ystod o wasanaethau ymgynghori busnes masnachol ac arbenigol eraill. Ar hyn o bryd rydym yn rheoli'r rhaglen Sgiliau Newydd Dechrau Newydd, sy’n cefnogi pobl i fod yn hunangyflogedig. Rydym hefyd yn cefnogi entrepreneuriaid ifanc sy'n sefydlu busnesau trwy raglen Syniadau Mawr Cymru, Llywodraeth Cymru.
Mae Menter Antur Cymru hefyd yn rheoli Cronfa Fferm Wynt Brechfa.
Mae Menter Antur Cymru yn darparu cefnogaeth i fusnesau trwy gytundeb cymorth busnes Busnes Cymru.
SubtitleOs ydych chi'n ystyried dechrau busnes yng Nghymru, neu'n edrych i dyfu eich busnes yng Nghymru, mae ein tîm profiadol o Ymgynghorwyr yn barod i'ch helpu ar eich taith fusnes. Gyda dros 60 o bobl proffesiynol yn gweithio ar draws y Canolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru, rydym yn medru darparu Ymgynghorwyr Busnes Cymru a Mentoriaid Busnes Cymru yn lleol i chi.
Mae Ymgynghorwyr Busnes Cymru yn gweithio gyda chi i baratoi eich cynllun busnes, adnabod ffynonellau cyllid gan gynnwys Benthyciadau Dechrau Busnes, cyfleoedd cyllid i fusnesau bach, benthyciadau ar gyfer prosiectau mwy a phan fydd grantiau ar gael, rydym yn cynnig help i gwblhau ceisiadau.
Mae cyngor busnes arbenigol pellach ar gael sy’n cynnwys gweminarau busnes yn rhad ac am ddim sy’n trafod pynciau megis rheoli cyllid, strategaeth farchnata a chynlluniau cyfathrebu gan gynnwys Marchnata Digidol, Rheoli Adnoddau Dynol (AD), Tendro, Masnach Ryngwladol a chanllawiau Ymarfer Busnes Cynaliadwy. Ategir at y gweithdai gan gefnogaeth a chyngor un-am-un.
Gwasanaethau Ymgynghori Masnachol
Wedi'u Teilwra i'ch Anghenion.Mae gan Fenter Antur Cymru nifer o Ymgynghorwyr profiadol y gallwch eu comisiynu i weithio gyda’ch busnes ar un prosiect yn unig neu drwy gynnig cefnogaeth barhaus a hynny mewn ffordd hyblyg ac ar eich telerau chi. Golyga hyn y gall eich busnes elwa o'r arbenigedd mewn gwasanaethau megis marchnata mewnol, AD, neu TG heb orfod wynebu’r costau cysylltiedig â chynnal y gwasanaethau hyn gan osod y llwyfan iawn i’ch busnes i dyfu. Gall y gefnogaeth amrywio o rôl y ffrind beirniadol, gwerthuso cynlluniau busnes, strategaeth, ategu rhagdybiaethau hyd at fonitro a chymorth ymarferol i weithredu.
Gall eich busnes alw ar ein profiad i dyfu eich busnes a phan fydd yr amser yn iawn, sicrhau eich bod yn cyrchu'r cyfleoedd a gyflwynir ar ddiwedd eich cylch busnes, trwy strategaethau ymadael wedi’u trefnu ac sydd wedi'u cynllunio i gynyddu gwerth eich busnes i'r eithaf.
Cefnogaeth TG i Fusnes trwy Telemat
Rhan o Fenter Antur CymruMae gan Fenter Antur Cymru nifer o Ymgynghorwyr profiadol y gallwch eu comisiynu i weithio gyda’ch busnes ar un prosiect yn unig neu drwy gynnig cefnogaeth barhaus a hynny mewn ffordd hyblyg ac ar eich telerau chi. Golyga hyn y gall eich busnes elwa o'r arbenigedd mewn gwasanaethau megis marchnata mewnol, AD, neu TG heb orfod wynebu’r costau cysylltiedig â chynnal y gwasanaethau hyn gan osod y llwyfan iawn i’ch busnes i dyfu. Gall y gefnogaeth amrywio o rôl y ffrind beirniadol, gwerthuso cynlluniau busnes, strategaeth, ategu rhagdybiaethau hyd at fonitro a chymorth ymarferol i weithredu.
Gall eich busnes alw ar ein profiad i dyfu eich busnes a phan fydd yr amser yn iawn, sicrhau eich bod yn cyrchu'r cyfleoedd a gyflwynir ar ddiwedd eich cylch busnes, trwy strategaethau ymadael wedi’u trefnu ac sydd wedi'u cynllunio i gynyddu gwerth eich busnes i'r eithaf.
Barn Ein Cwsmeriaid
“Yn debyg iawn i’r Scarlets, mae cymuned wrth galon holl waith Antur Teifi. Rydym yn falch felly i gydweithio gyda Antur Teifi fel rhan o’n rhaglen ymgysylltu cymunedol wrth gefnogi busnesau.”
Scarlets
Cylchlythyr
Anfoner cylchlythyr chwarterol Antur Cymru ar ebost i fwy na 9,000 o randdeiliaid busnes a bydd ei gynnwys yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newyddion y cwmni yn Antur Cymru a Gwasanaethau TG Telemat.
Bydd y cylchlythyr hefyd yn rhannu gwybodaeth fewnol am ddiwydiant o ran yr hyn sy’n digwydd gyda busnes yng Nghymru, felly cofrestrwch nawr i dderbyn y cylchlythyr diweddaraf yn rheolaidd.
Lluniau gan: © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2019) Cymru Wales – (Castell Caernarfon gyda chychod) NVW-C77-1011-0019; (Bae Caerdydd yn y nos) BWM-C03-1516-2886; (Copa’r Wyddfa) NVW-C155-1819-0055; (Silwét person ar yr Wyddfa) NVW-C147-1819-0076; (Cader Idris) NVW-D24-2021-0105